Ysgrifennwyd y cerdyn post gan Fred Hughes o Ddinbych ac mae'n dweud 'gan fy mod yn garcharor rhyfel yn yr Eidal ar hyn o bryd rwy'n caniatáu i fy chwaer (Miss Edith Hughes) dynnu arian o'r Polisi Yswiriant sy'n daladwy i mi pan fu farw fy mam yn ddiweddar'. Gwasanaethodd Fred gyda'r Peirianwyr Brenhinol fel Cloddiwr. Cadwodd mewn cysylltiad â'i rieni a'i chwaer, Edith, tra oedd tramor. Bu farw mam Fred ym 1943 tra oedd yn garcharor rhyfel. Gwasanaethodd Fred yng Ngogledd Affrig ond cafodd ei ddal a'i garcharu tua diwedd 1942. Fe'i hanfonwyd i wersyll yn yr Eidal cyn cael ei symud i Awstria. Fe'i lladdwyd yn ystod cyrch awyr gan y cyngrheiriaid ar 20 Awst 1944 ac mae wedi'i gladdu ym mynwent drefol Auschwitz. Gwasanaethodd ei frawd Charles hefyd, ond dychwelodd i Ogledd Cymru'n ddiogel.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.