Mae Fred Hughes o Ddinbych yn ysgrifennu at ei fam o'r gwersyll carcharorion rhyfel 'paid â phryderu, cariad, fe fydd popeth yn iawn'. Gwasanaethodd Fred gyda'r Peirianwyr Brenhinol fel Cloddiwr. Pan oedd tramor cadwodd mewn cysylltiad â'i rieni a'i chwaer, Edith. Bu farw mam Fred ym 1943 tra oedd yn garcharor rhyfel. Gwasanaethodd Fred yng Ngogledd Affrig ond cafodd ei ddal a'i garcharu tua diwedd 1942. Fe'i hanfonwyd i wersyll yn yr Eidal cyn cael ei symud i Awstria. Fe'i lladdwyd yn ystod cyrch awyr gan y cyngrheiriaid ar 20 Awst 1944 ac mae wedi'i gladdu ym mynwent drefol Auschwitz. Gwasanaethodd ei frawd Charles hefyd, ond dychwelodd i Ogledd Cymru'n ddiogel.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.