Llythyr oddi wrth Gwasanaeth Tramor Unol Daleithiau America at Gilbert Leach, 4 Hydref 1946 Cyfeirnod yr eitem : cny03617
Disgrifiad
Mae'r llythyr yn gwahodd Gilbert Leach i seremoni wobrwyo i'w chynnal ar 22 Hydref 1946 yn 14 Princess Gate (cartref y Llysgennad). Mae'r llythyr oddi wrth Gyrnol John B. Ackerman yn dweud y gellid gwisgo dillad sifil ar gyfer y seremoni. Prentis fferyllydd oedd Gilbert Leach o'r Rhyl pan ymunodd â 17eg Catrawd Maes y Magnelwyr Brenhinol a dod yn Fagnelwr. Cymrodd ran yng nglaniadau Gogledd Affrig cyn mynd i'r Eidal lle arhosodd tan ddiwedd y rhyfel. Gwobrwywyd Gilbert Fedal Seren Efydd America am ei ddewrder yn yr Eidal ar 21 Ebrill 1945. Parhaodd i ddefnyddio'i radio er bod bomio trwm a pharhaol, ac felly bu'r perwyl yn llwyddiannus. Ym 1946 aeth Gilbert i'r fyddin wrth gefn a dychwelodd i'w waith fel fferyllydd.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.