Ysgrifbinnau'n perthyn i Gilbert Leach, 1939-45 Cyfeirnod yr eitem : cny03642
Disgrifiad
Ysgrifbinnau'n perthyn i Gilbert Leach a ddefnyddiwyd ganddo i ysgrifennu llythyrau adref yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Prentis fferyllydd oedd Gilbert Leach o'r Rhyl pan ymunodd â 17eg Catrawd Maes y Magnelwyr Brenhinol a dod yn Fagnelwr. Cymrodd ran yng nglaniadau Gogledd Affrig cyn mynd i'r Eidal lle arhosodd tan ddiwedd y rhyfel. Gwobrwywyd Gilbert Seren Efydd America am ei ddewrder yn yr Eidal ar 21 Ebrill 1945. Parhaodd i ddefnyddio'i radio er bod bomio trwm a pharhaol, ac felly bu'r perwyl yn llwyddiannus. Ym 1946 aeth Gilbert i'r fyddin wrth gefn a dychwelodd i'w waith fel fferyllydd.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.