Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Dyfynneb ar gyfer y Seren Efydd a wobrwywyd i Gilbert Leach, 1945
Cyfeirnod yr eitem : cny03649

Disgrifiad

Cyfieithiad o'r adysgrif: Dyfynneb ar gyfer Medal Seren Efydd Gilbert F. Leach, 1133648, Magnelwr, 17eg Catrawd Maes Magnelwyr Brenhinol, Byddin Brydeinig, am gyflawniadau arwrol yn ymwneud â gorchestion milwrol yn erbyn y gelyn yn yr Eidal ar 21 Ebrill 1945. Roedd Magnelwr Leach yn defnyddio radio mewn cerbyd Gwylio Magnelfa mewn amgylchiadau peryglus mewn tir agored, er bomio trwm parhaol y gelyn, arhosodd yn ei safle a pharhaodd i ddefnyddio'i radio gyda phwyll a dewrder, felly'n cynorthwyo'i uned i gyflawni'i pherwyl yn llwyddiannus. Roedd ei ddewrder pan oedd y gelyn yn tanio arno a'i ymroddiad llwyr i'w ddyletswydd yn dilyn traddodiadau gorau'r Fyddin Brydeinig. Ymunodd â'r gwasanaeth yn y Rhyl, Gogledd Cymru. Prentis fferyllydd oedd Gilbert Leach o'r Rhyl pan ymunodd â 17eg Catrawd Maes y Magnelwyr Brenhinol a dod yn Fagnelwr.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.