Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





David Jones a chydweithwyr ar fwrdd llong achub, HMS Spaniard, Hydref 1942
Cyfeirnod yr eitem : cny03661

Disgrifiad

Un o ffotograffau swyddogol y Morlu a dynnwyd wrth achub David a'i gydweithwyr, yn ddiymgeledd ar arfordir Liberia, Gorllewin Africa, ar ôl i'w llong gael eu suddo. Aethpwyd â'r dynion allan at y treill-long mewn can|od gan y bobl leol. Roedd David Jones yn swyddlog cadlanciau ar fwrdd y "Quebec City" ar daith o Dref y Penrhyn i Freetown. Ar 19 Medi, 1942, ymosodwyd ar y llong gan long danfor Almaenig a'i suddo. Sicrhaodd capten y llong danfor, Capten Werner Hartenstein, fod ganddynt gychod diogel a syniad da o'u safle, fel y gallent hwylio i fan diogel. O'r diwedd, pan gyraeddasant arfordir gorllewinol Affrica, fe'u croesawyd gan frodorion Affricanaidd a gymerodd hwy i mewn ac edrych ar eu holau. Tynnodd David a'i gydweithwyr lun S.O.S anferth yn y tywod, a welwyd gan awyren ragchwilio Prydeinig, ac yn y diwedd fe'u hachubwyd.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.