Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Llyfr rheolau 'International Submarine Connection U-156 Plauen', 23 Tachwedd 2003
Cyfeirnod yr eitem : cny03664

Disgrifiad

Ganed Captain Werner Hartenstein, cadlywydd yr U-156, y llong danfor a suddodd y Quebec City â thorpido, i deulu cyfoethog yn Plauen, Yr Almaen. Adnabyddid ef am ei ymdrechion gwrol i achub goroeswyr y llongau yr ymosododd arnynt yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn arbennig Y Laconia, a suddwyd gan dorpido ddyddiau cyn y Quebec City. Ar 23 Tachwedd, 2002, sefydlwyd cymdeithas coffadwriaethol, 'The International Submarine Connection U-156 Plauen, i anrhydeddu Hartenstein a'i griw, yn nhref ei gartref yn Plauen, Yr Almaen. Roedd David ymysg yr aelodau sefydlol ac yn Llywydd y gymdeithas. Roedd David Jones yn swyddlog cadlanciau ar fwrdd y "Quebec City" ar daith o Dref y Penrhyn i Freetown. Ar 19 Medi, 1942, ymosodwyd ar y llong gan long danfor Almaenig a'i suddo. Sicrhaodd capten y llong danfor, Capten Werner Hartenstein, fod ganddynt gychod diogel a syniad da o'u safle, fel y gallent hwylio i fan diogel. O'r diwedd, pan gyraeddasant arfordir gorllewinol Affrica, fe'u croesawyd gan frodorion Affricanaidd a gymerodd hwy i mewn ac edrych ar eu holau. Tynnodd David a'i gydweithwyr lun S.O.S anferth yn y tywod, a welwyd gan awyren ragchwilio Prydeinig, ac yn y diwedd fe'u hachubwyd.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.