Llun o swynwr nadroedd yn India, 1940au Cyfeirnod yr eitem : cny03694
Disgrifiad
Dechreuodd profiadau Ail Ryfel Byd Jim Hutchings yn West Kirby, Lerpwl, ble'r aeth ar fwrdd llong filwyr yr 'Empress of Russia'. Ar ôl pump wythnos ar y môr hwyliasant i Freetown, Sierra Leone ac, yna, ymlaen i Dref y Penrhyn ac, yn y diwedd, Durban. Prynodd gamera Voigtlander am ddeg swllt - bargen, gan fod y siopwr yn ei chael hi'n anodd i werthu nwyddau a wnaed yn yr Almaen. O hynny ymlaen cymerodd Jim ffotograffau ble bynnag yr âi. O Dde Affrica, hwyliodd Jim i India ar fwrdd y Mooltan, cludwr milwyr gyda bynciau o bump wedi eu pentyrru ar ben ei gilydd. Fel peirianwyr, treuliodd ef a'i uned beth amser yn adfer cerbydau ac awyrennau oedd wedi eu bomio neu wedi torri i lawr. Byddent yn tynnu pob darn defnyddiol ohonynt, gan ei fod yn amhosib cael gafael ar ddarnau sbâr. Dychwelodd Jim gartref o'r diwedd ym 1946.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.