Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Ffotograff Ymadael Corinne Roma Jones, Guilford, 1945, blaen [delwedd 1 o 2]
Cyfeirnod yr eitem : cny03759

Items in this series [translate]:

Ffotograff Ymadael Corinne Roma Jones, Guildford, 1945, tu cefn [delwedd 2 o 2]

Disgrifiad

Ganed Corinne Jones, Harmwell gynt, yn Littlehampton, Sussex. Yn Rhagfyr 1944 ymunodd â'r GTC, yn 17 oed, a threuliodd 6 wythnos yn hyfforddi yn y Queen's Camp yn Guilford. Wedi ei lleoli i ddechrau yn Bicester, Swydd Rydychen, gwnâi waith clercio yn bennaf i Gorfflu Ordnans y Fyddin Brydeinig, yn trefnu bod arfau yn cael eu hanfon allan i filwyr dramor. Roedd gwersyll Americanaidd gerllaw, ac mae Corinne yn cofio bod siarabáng yn cael ei anfon i wersyll y GTC i nôl y merched pan fyddai'r GIs Americanaidd yn eu gwahodd i ddawns, ac ar ôl iddynt gyrraedd byddai hufen iâ yn cadel ei weini iddynt. Pan fyddai'r milwyr Prydeinig yn eu gwahodd, tryc y fyddin fyddai'n dod i'w nôl! Ar un achlysur cofiadwy daeth GI Americanaidd du i ofyn i Corrine ddawnsio. Doedd ganddi mo'r rhagfarnau oedd yn gyffredin mewn rhannau o'r UD ar y pryd, felly cododd yn ddiymdroi i ddawnsio gydag ef. Cynddeiriogodd hyn lawer o'r Americanwyr gwyn, ac achosodd ychydig o gynnwrf ymysg y dawnswyr.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.