Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Mary Kane a'i ffrind Joyce, Gwersyll Longmoor, Hampshire, 1940au
Cyfeirnod yr eitem : cny03766

Disgrifiad

Mary John oedd Mary Kane pan ganed hi ym 1925 yn Y Clun yng Nghwm Nedd. Ym 1943 ymunodd â'r GTC ac fe'i hanfonwyd i Wersyll Gwyliau Prestatyn, oedd yn cael ei ddefnyddio fel safle hyfforddi'r Fyddin, ble roedd yn gweithio fel gweinyddes yn Ystafell Fwyta'r Swyddogion. Anfonwyd Mary nesaf i Liss yn Hampshire, ble bu'n gweithio fel rhan o'r criw arlwyo, yn bwydo 6000 o filwyr mewn chwe chegin. Yr oedd yno yn ystod glaniadau D-Day; roedd hi a'r staff atodol eraill yn gaeth i'r gwersyll am dri mis wrth i D-Day nesáu er mwyn rhwystro unrhyw un rhag datgelu unrhyw wybodaeth y gallent fod wedi ei gael. Anfonwyd y rhan fwyaf o'r dynion, oedd wedi eu lleoli yn y gwersyll hwnnw, i Normandi.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.