Ffurflen B.104-83 y Fyddin a anfonwyd at deulu Cyril Morris yn rhoi gwybod iddynt ei fod ar goll wrth ymladd, 28 Gorffennaf 1942 Cyfeirnod yr eitem : cny03771
Disgrifiad
Roedd Cyril Morris yn gwasanaethu gydfa'r 8fed Byddin yn Tobruk, pan gipiwyd y porthladd gan yr Almaenwyr. Ynghyd â 35,000 o ddynion eraill cymerwyd Cyril yn garcharor a'i symud o Libya i Fara Sabina yn yr Eidal. Pan gafodd Mussolini ei ddisodli yr oedd y gwersyll mewn penbleth llwyr a llwyddodd Cyril i sleifio ymaith. Ffodd i'r bryniau a bu'n byw yno am fisoedd lawer gyda theulu Eidalaidd. Cafodd ei ddal unwaith eto, a llwythwyd y carcharorion rhyfel ar wagenni gwartheg, i'w hanfon i'r Almaen ar drên. Ond ymosodwyd ar y trên gan awyrennau Americanaidd. Goroesodd Cyril, a chyflwynodd ei hun wrth borth gwersyll y Fyddin Brydeinig, heb ei swyddwisg na dogfennau cydnabod. Roedd gan y giard oedd yn ei holi gefnder yn Nolgellau, Dennis Arnfield, ac roedd Dennis wedi mynd i'r un ysgol ag ef.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.