Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Vivaro Romana, y pentref ble cafodd Cyril Morris loches, yn dilyn ei fföedigaeth o Wersyll Carcharorion Rhyfel 54 yn yr Eidal, 1944
Cyfeirnod yr eitem : cny03780

Disgrifiad

Roedd Cyril Morris yn gwasanaethu gyda'r 8fed Byddin yn Tobruk, pan gipiwyd y porthladd gan yr Almaenwyr. Ynghyd â 35,000 o ddynion eraill cymerwyd Cyril yn garcharor a'i symud o Libya i Fara Sabina yn yr Eidal. Pan gafodd Mussolini ei ddisodli yr oedd y gwersyll mewn penbleth llwyr a llwyddodd Cyril i sleifio ymaith. Ffodd i'r bryniau a bu'n byw yno am fisoedd lawer gyda theulu Eidalaidd. Yna cafodd ei ddal unwaith eto a llwythwyd y carcharorion rhyfel yn y gwersylloedd Almaenig ar wagenni gwartheg i'w cludo mewn trên i'r Almaen. Fodd bynnag bomiwyd y trên gan awyrennau Americanaidd. Goroesodd Cyril a chyflwynodd ei hun wrth gât gwersyll y Fyddin Brydeinig heb wisg milwrol na phapurau adnabod. Fel roedd yn digwydd, roedd gan y gwarchodwr oedd yn ei holi gefnder o Ddolgellau, Dennis Arnfield, a aeth i'r ysgol gyda Cyril.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.