Rydych chi yma: Hafan / Straeon Digidol / Delweddau

Delweddau





Ronald Pritchard, yn ei swydd Pennaeth Marsial yn arddangosfa Gwasanaeth Tân Caerdydd, Gerddi Sophia, Caerdydd, 1942
Cyfeirnod yr eitem : cny04028

Disgrifiad

Gwelir Ronald Pritchard ar y dde. Ymwelodd Herbert Morrison, yr Ysgrifennydd Gwladol drwy gydol yr Ail Ryfel Byd, â Gwasanaeth Tân Caerdydd ym 1942, a cafodd weld gorymdaith ac arddangosfa gan aelodau'r gwasanaeth yng Ngerddi Sophia, Caerdydd. Roedd tad Geoffrey Pritchard, Ronald, yn aelod o'r Gwasanaeth Tân Atodol, a ddaeth i fodolaeth ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, i gynorthwyo'r Gwasanaeth Tân. Cafodd ei benodi'r Swyddog Colofn yn y Gwasanaeth Tân Cenedlaethol, a grëwyd ym mis Awst 1941 pan gyfunwyd y brigadau arferol a'r Gwasanaeth Tân Atodol. Ar ôl diwedd y rhyfel ail-drefnwyd y Gwasanaeth Tân Cenedlaethol ar sail ranbarthol.

    Delweddau perthnasol







    Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.

    Gweld ein datganiad hawliau.