Difrod bom i adeilad The Standard Boot Company, Caerdydd, 3 Mehefin 1944 Cyfeirnod yr eitem : cny04033
Disgrifiad
Cafodd adeilad Standard Boot Company, St. John Street, Caerdydd, ei fomio yn gynnar ym mis Mehefin, 1944. Roedd Ronald Pritchard yn un o'r ymladdwyr tân a aeth yno. Roedd tad Geoffrey Pritchard, Ronald, yn aelod o'r Gwasanaeth Tân Atodol, a ddaeth i fodolaeth ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, i gynorthwyo'r Gwasanaeth Tân. Cafodd ei benodi'r Swyddog Colofn yn y Gwasanaeth Tân Cenedlaethol, a grëwyd ym mis Awst 1941 pan gyfunwyd y brigadau arferol a'r Gwasanaeth Tân Atodol. Ar ôl diwedd y rhyfel ail-drefnwyd y Gwasanaeth Tân Cenedlaethol ar sail ranbarthol.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.