Llythyr safonol a roddwyd i blant ar ddiwrnod dathlu'r fuddugoliaeth, anfonwyd at Geoffrey Pritchard, 8 Mehefin 1946, blaen [delwedd 1 o 2] Cyfeirnod yr eitem : cny04037
Ar 8 Gorffennaf 1946, bron blwyddyn ar ôl trechu'r Almaen, cynhaliwyd Orymdaith Fuddugoliaeth yn Llundain. Cyhoeddwyd llythyr a'i roi i bob plentyn oddi wrth y brenin Siôr VI fel rhan o'r dathliad. Roedd tad Geoffrey Pritchard, Ronald, yn aelod o'r Gwasanaeth Tân Atodol, a ddaeth i fodolaeth ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, i gynorthwyo'r Gwasanaeth Tân. Cafodd ei benodi'r Swyddog Colofn yn y Gwasanaeth Tân Cenedlaethol, a grëwyd ym mis Awst 1941 pan gyfunwyd y brigadau arferol a'r Gwasanaeth Tân Atodol. Ar ôl diwedd y rhyfel ail-drefnwyd y Gwasanaeth Tân Cenedlaethol ar sail ranbarthol.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.