Rhan o arddangosfa Gwasanaeth Tân Cenedlaethol Caerdydd yng Ngerddi Sophia, Caerdydd, a drefnwyd ar gyfer ymweliad John Anderson, yr Ysgrifennydd Cartref, ym 1939 Cyfeirnod yr eitem : cny04040
Disgrifiad
John Anderson oedd yr Ysgrifennydd Cartref o 1939 tan Hydref 1940, pan aeth yn weinidog yng Nghabinet Rhyfel Churchill, yn dilyn Chamberlain yn Lywydd y Cyngor. Ymwelodd â Chaerdydd ym 1939, cafodd weld arddangosfa o dechnegau ymladd tân gan Wasanaeth Tân Caerdydd. Roedd tad Geoffrey Pritchard, Ronald, yn aelod o'r Gwasanaeth Tân Atodol, a ddaeth i fodolaeth ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, i gynorthwyo'r Gwasanaeth Tân. Cafodd ei benodi'r Swyddog Colofn yn y Gwasanaeth Tân Cenedlaethol, a grëwyd ym mis Awst 1941 pan gyfunwyd y brigadau arferol a'r Gwasanaeth Tân Atodol. Ar ôl diwedd y rhyfel ail-drefnwyd y Gwasanaeth Tân Cenedlaethol ar sail ranbarthol.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.