Mae Eric yn cadw cynnwys ei lythyr at ei gariad yn ysgafn; awdurdodau'r gwersyll oedd yn penderfynu beth ellid ei ddweud mewn llythyrau. Gwelodd Eric ddrama a berfformiwyd gan y carcharorion ac er y diffyg adnoddau roedd yn 'smashing'. Mae Eric yn cadw cynnwys y llythyr i faterion cyffredin gan obeithio na fydd Dilys yn pryderu amdano ormod. Awyr-beiriannydd gyda'r Llu Awyr oedd Eric Stephens a gafodd ei saethu i lawr wrth iddo ddychwelyd o gyrch bomio ar ffin yr Iseldiroedd a'r Almaen ym 1944. Wedi iddo ef a'i griw lwyddo i osgoi'r Almaenwyr am wythnos cawsant eu dal a'u carcharu. Rhwng 1944 a 1945 cafodd Eric ei symud i dri gwersyll carcharorion rhyfel gwahanol.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.