Anfonwyd y ffotograff hwn at ei rieni gan Eric Stephens i ddangos ei griw: Rhes gefn, o'r chwith i'r dde: Sgt. Basil Carlyle Aldis (bomiwr awyr), Sgt Eric Morgan Stephens (Awyr-beiriannydd), Sgt Stanley Bennion (gynnwr awyr), Sgt Kenneth George Williams (capten), Sgt George Bailey (llywiwr), Sgt John Albert Cooper (radio). Awyr-beiriannydd gyda'r Llu Awyr oedd Eric Stephens a gafodd ei saethu i lawr wrth iddo ddychwelyd o gyrch bomio ar ffin yr Iseldiroedd a'r Almaen ym 1944. Wedi iddo ef a'i griw lwyddo i osgoi'r Almaenwyr am wythnos cawsant eu dal a'u carcharu. Rhwng 1944 a 1945 cafodd Eric ei symud i dri gwersyll carcharorion rhyfel gwahanol.