Telegram yn cadarnhau carcharu E. M. Stephens gan yr Almaenwyr, Abertawe, 1944 Cyfeirnod yr eitem : cny04237
Disgrifiad
Awyr-beiriannydd gyda'r Llu Awyr oedd Eric Stephens a gafodd ei saethu i lawr wrth iddo ddychwelyd o gyrch bomio ar ffin yr Iseldiroedd a'r Almaen ym 1944. Wedi iddo ef a'i griw lwyddo i osgoi'r Almaenwyr am wythnos cawsant eu dal a'u carcharu. Mae'r telegram yn cadarnhau fod Eric wedi ei ddal gan yr Almaenwyr ond ni allent ddweud ymhle y mae'n cael ei garcharu. Rhwng 1944 a 1945 cafodd Eric ei symud i dri gwersyll carcharorion rhyfel gwahanol.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.