Llythyr o'r Weinyddiaeth Awyr, Llundain, 1944 Cyfeirnod yr eitem : cny04238
Disgrifiad
Llythyr dyddiedig 6 Ebrill 1944. Adrodda'r Weinyddiaeth Awyr wrth rieni Eric ei fod yn garcharor rhyfel. Roedd Eric Stephens yn beiriannydd RAF, ac fe gafodd ei awyren ei saethu i lawr, gyda gweddill y criw, gan filwyr Almaenig wrth iddynt ddychwelyd o fomio ar y ffin rhwng yr Iseliroedd a'r Almaen ym 1944. Ar ôl iddynt lwyddo i osgoi'r Almaenwyr am wythnos cawsant eu dal a'u carcharu. Roedd y Groes Goch Ryngwladol, wrth ddyfynnu adroddiad Almaenig, wedi hysbysu'r Llywodraeth Brydeinig am garchariad Eric, ond nid oedd yr adroddiad yn rhoi lleoliad y gwersyll. Er hynny, mae'r Weinyddiaeth yn dweud wrth rieni Eric y dylent ddisgwyl llythyr oddi wrtho yn cynnwys cyfeiriad y gwersyll. Carcharwyd Eric yn Hydekrug, Dwyrain Prussia (yn Lithuania erbyn hyn) a rhwng 1944 a 1945 trosglwyddwyd ef i Thorn yng Ngwlad Pwyl ac i wersyll M Stammlager ac yn olaf i Fallingbostel ger Hannover.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.