Testament newydd yn perthyn i Maelor Evans, yn dwyn yr arysgrif: Cyflwynedig i Maelor Nathaniel Evans ar ei dderbyniad yn aelod cyflawn o Eglwys Iesu Grist yng Ngharmel Cnwch Coch , Ebrill 4 1943 - E. Wyn Williams (Gweinidog). "Gweddïwch yn ddi-baid". Drafftiwyd Maelor i Ewrop i ddechrau ond yn ystod y cyfnod hwn bu'n sâl ac fe'i hanfonwyd yn ôl i Brydain. Wedi iddo wella fe'i drafftiwyd i'r Dwyrain Pell. Cyn cychwyn ar ei daith rhoddodd ei fam Feibl yn ei law a mynnu ei fod yn mynd ag ef ar y daith bell.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.