Cerdyn post safonol a gyhoeddwyd gan y gwasanaethau arfog er mwyn i filwyr ysgrifennu adref at aelodau'u teuluoedd. Roedd rheolau pendant yn rheoli'r hyn y gellid ei ysgrifennu, ac ymhle, fel na fyddai gwybodaeth am safleoedd milwyr ayyb yn ymddangos. Ymunodd Iori â'r 146 Field Regiment R.A. & 146 Medium Regiment R.A. Pembroke & Cardiganshire Yeomanry T.A ym 1939. Gadawodd ei swydd yn storfa danwydd Shell i ymuno â'r fyddin. Ar ôl iddo gwblhau ei hyfforddiant sylfaenol aeth Iori'n gyntaf i Ogledd Cymru ac wedyn i Ganolbarth Lloegr. Yn ddiweddarach cafodd ei anfon i amddiffyn arfordir De Lloegr. Bu'n brwydro yn niffeithwch Gogledd Affrig a chwaraeodd ran yn y cyrchoedd ar yr Eidal ac ar Normandi.
Delweddau perthnasol
Os oes gennych unrhyw umholdiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â ni.