Rydych chi yma: Hafan / Adnoddau / Bywydau plant

Bywydau plant

Bywydau plant yn ystod yr Ail Ryfel Byd: chwyddwydr


Yn ystod yr Ail Ryfel Byd symudwyd dros filiwn (1,000,000) o blant o ddinasoedd Prydain fel eu bod yn fwy diogel rhag y bomiau a'r cyrchoedd awyr. Anfonwyd dros 200,000 o'r plant hyn i bob rhan o Gymru, a'r enw oedd yn cael ei ddefnyddio am blant oedd yn cael eu symud i gefn gwlad oedd faciws. Yn aml byddent yn gorfod gadael eu teuluoedd a theithio ar drn gyda dim byd ond ychydig eiddo personol, mwgwd nwy a thag adnabod.

Newidiodd bywydau plant Cymru hefyd yn y cyfnod hwn. Roedden nhw'n cael eu hannog i gyfrannu at yr ymgyrch ryfel drwy ddysgu sgiliau fel garddio, gwno, a chasglu adnoddau i ailgylchu. Roedd plant yn gorfod ymarfer gwisgo mygydau nwy, ac roedd nwyddau fel siocled yn brin ac yn cael eu dogni.

Drwy ddefnyddio chwyddwydr i chwilio am bethau penodol yn y ffotograffau byddi di'n dysgu mwy am fywydau plant yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dilyna'r dolenni hyn i ddechrau defnyddio'r chwyddwydr.