Rydych chi yma: Hafan / Adnoddau / Bywydau menywod

Bywydau menywod

Bywydau menywod yn ystod yr Ail Ryfel Byd: holi ac ateb


Newidiodd bywydau llawer o fenywod yn gyfan gwbl yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dyma'r tro cyntaf i lawer ohonyn nhw adael y cartref i weithio: yn 1939 roedd 94,000 o fenywod yng Nghymru yn gweithio, ond erbyn 1944 roedd y nifer wedi cynyddu i 204,000.

Aeth llawer o'r menywod hyn i weithio ar y tir fel rhan o Fyddin Tir y Merched. Erbyn 1943 roedd bron i 4,500 o fenywod yn rhan o Fyddin Tir y Merched yng Nghymru. Roedd miloedd o fenywod hefyd yn gweithio ar fferm y teulu yn helpu cynhyrchu bwyd ar gyfer yr ymgyrch ryfel.

Aeth eraill i weithio mewn swyddi newydd fel ffatroedd cemegau, ffrwydron, ac adeiladu awyrennau. Erbyn 1944 roedd 55% o weithwyr rhyfel Cymru yn fenywod.

Ymunodd rhai menywod gyda'r Lluoedd Arfog. O fis Rhagfyr 1941 ymlaen roedd yn rhaid i bob menyw rhwng 20 a 30 oed gofrestru ar gyfer gwaith rhyfel neu waith gyda'r Lluoedd Arfog.

Drwy ateb cwestiynau am y ffotograffau byddi di'n dysgu mwy am fywydau menywod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a bydd modd i ti argraffu dy atebion a'u cadw. Dilyna'r dolenni hyn i ddysgu mwy.