Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd rhai pethau'n brin iawn oherwydd ymosodiadau ar longau oedd yn mewnforio nwyddau i Brydain, a'r ffaith fod ffatrïoedd yn canolbwyntio ar gynhyrchu arfau rhyfel.
Bu'n rhaid dogni pethau elfennol i sicrhau bod nwyddau'n cael eu dosbarthu'n deg i bawb. Roedd tecstiliau a dillad yn brin iawn, a chyhoeddodd y Bwrdd Masnach daflenni yn annog pobl i 'Drwsio a gwneud y tro', ac ailgylchu hen ddillad yn lle eu taflu. Roedd llawer o fwydydd hefyd yn brin, ac yn ogystal dogni bwyd roedd y llywodraeth yn annog pobl i dyfu bwyd eu hunain.
Roedd pobl hefyd yn cael eu hannog i gyfrannu at yr ymgyrch ryfel a pharatoi ar gyfer ymosodiadau. Mae'r gwaith oedd yn cael ei wneud gan bobl gyffredin i helpu Prydain yn yr ymgyrch ryfel i gyd yn rhan o'r hyn sy'n cael ei alw'n Ffrynt Cartref.
Drwy glicio ar ffotograff byddi di'n datgelu mwy o'r ffotograff ei hun ac yn canfod gwybodaeth am y cyfnod. Dilyna'r dolenni hyn i ddysgu mwy.