Rydych chi yma: Hafan / Geoff Charles / Bywyd Geoff Charles

Bywyd Geoff Charles

Llun trwy garedigrwydd Iwan Meical Jones

Ffotograffydd papur newydd oedd Geoff Charles (1909 - 2002), a roddodd 50 mlynedd o’i oes i bortreadu Cymru trwy lens ei gamera. Mae cyfraniad Geoff Charles i Gymru yn unigryw, a heddiw mae ei archif o 120,000 o ffotograffau yn un o drysorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Geoff Charles, y newyddiadurwr


Ganwyd Geoff Charles ym Mrymbo yn 1909. Astudiodd ar gyfer Diploma mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Llundain, a graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn 1928. Am gyfnod byr bu’n gweithio fel gohebydd ar y Western Mail yn adrodd ar rasio beiciau ar drac; rasio milgwn a chwestau. Yn ddiweddarach adroddodd ar achosion llys a chyfarfodydd cyngor ar gyfer y Mountain Ash and Aberdare Express cyn symud i Guildford i weithio ar y Surrey Advertiser.

Yn dilyn cyfnod o salwch difrifol fe ddychwelodd i Gymru i weithio gyda’r Wrexham Star, papur a sefydlwyd ar gyllideb ceiniog a dimau, yn Chwefror 1934. Gwerthwyd y papur am geiniog gan werthwyr stryd, ac anelai at fod yn rhatach na’r Wrexham Leader, a oedd yn gwerthu am ddwy geiniog. Ychydig ar ôl iddo ymuno â’r Wrexham Star fe adroddodd ar drychineb Glofa Gresffordd. Wedi cael mynediad i ystafell y lampau gwelodd bod y ffigwr swyddogol o 100 am y nifer o ddynion oedd tan ddaear yn is na’r gwir nifer. Wedi’i arfogi gyda’r wybodaeth yma, rhuthrodd i gyhoeddi rhifyn arbennig o’r papur.

Geoff Charles, y ffotograffydd


Yn eironig ddigon parodd i’r gwellhad economaidd ar y pryd roi taw ar y Wrexham Star, gan i’w werthwyr stryd ddod o hyd i waith rheolaidd. Tra bu’n gweithio gyda’r Wrexham Star prynodd Geoff Charles ei gamera cyntaf, sef y VPK Thornton Pickard a oedd yn defnyddio platiau gwydr 6 x 9 cm. (2.5 x 3.5 modfedd). Ym Mawrth 1936 prynwyd y papur a’i uno gyda’r Wrexham Advertiser. Dyma ble cyfarfu Geoff Charles, ac yntau erbyn hyn yn ffotograffydd cymwys, â’r rheolwr gyfarwyddwr, Rowland Thomas, a gwneud digon o argraff ar hwnnw i gael cynnig y cyfrifoldeb o reoli adran ffotograffig Papurau Woodalls.

Symudodd i’r Drenewydd i redeg y Montgomeryshire Express ble y cyfarfu â gohebydd ifanc addawol o’r enw John Roberts Williams, a daeth yn ddiweddarach i ddarlunio erthyglau iddo yn Y Cymro. Dechreuodd weithio’n ysbeidiol i’r Cymro yn 1937 pan gafodd gyfweliad gyda’r Parchedig Lewis Valentine ychydig cyn ei garcharu am ei ran yn llosgi Ysgol Fomio Penyberth. Bu bron i’w gysylltiad gyda’r Cymro ddod i ben yn ystod blynyddoedd y rhyfel pan fu'n gwasanaethu ar Is-bwyllgor Arddangosiad, Pwyllgor Gweithredol Amaethyddol Rhyfel (WAEC) Sir Drefaldwyn yn helpu i roi ar waith arferion ffermio mwy blaengar.

Ailafaelodd gydag awch yn ei waith i’r Cymro ar ôl y rhyfel pan benodwyd John Roberts Williams yn olygydd. Yn fuan iawn rhagorodd eu gwaith ar bob ffotonewyddiaduraeth arall a welwyd hyd hynny yng Nghymru.

Ei waddol i Gymru


Ymddeolodd Geoff Charles yn 1975 ond parhaodd i gyfrannu erthyglau a ffotograffau i’r Cymro ac i’r Farmers Weekly fel newyddiadurwr annibynnol. Fe roddodd ei gasgliad o 120,000 o negyddion i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Maent i gyd wedi eu cyffwrdd argraffu a’u croesgyfeirio at y cyhoeddiadau y cyhoeddwyd hwy ynddynt gyntaf.

 

 

Am fwy o wybodaeth ac i chwilio'r casgliad ymwelwch â’r Drych Digidol.