Enwog am: Ysgrifennu cerddi gwladgarol a heddychol
Uchafbwynt Oes: Cyhoeddi ei unig gyfrol Dail Pren yn 1956
Ganwyd Waldo Goronwy Williams yn Hwlffordd yn 1904, ac fe’i magwyd ar aelwyd Saesneg i ddechrau, gan mai Saesneg oedd iaith ei fam, er bod ei dad yn medru'r Gymraeg. Symudodd y teulu i bentref Mynachlog-ddu yn ardal y Preseli pan oedd Waldo’n 7 oed a dyna ddechreuad ei ddealltwriaeth o’r iaith Gymraeg a’i wladgarwch. Roedd ei rieni’n heddychwyr a dylanwadodd ei fagwraeth yn fawr ar ei fywyd a’i waith.
Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Narberth ac yna aeth i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1923 i astudio Saesneg, gan ymddiddori yn y Beirdd Rhamantaidd Saesneg. Ar ôl graddio yn 1926 hyfforddodd i fod yn athro ac aeth i ddysgu. Yn ystod ei gyfnod yn y coleg dechreuodd farddoni a dyna pryd yr ysgrifennodd ei gerdd enwog Cofio.
Bu’r Ail Ryfel Byd yn gyfnod anodd iawn i Waldo. Roedd yn wrthwynebydd cydwybodol i’r Rhyfel ac roedd gweld y fyddin yn mynd â thir yn ardal Sir Benfro ar gyfer ymarferion rhyfel yn wrthun iddo. Ysgrifennodd nifer o gerddi yn ystod yr Ail Ryfel Byd, oedd yn adlewyrchu’i wrthwynebiad, gan gynnwys Daw’r Wennol yn ôl i’r Nyth, Ar Weun Cas Mael a’r enwocaf, Y Tangnefeddwyr. Bu farw ei wraig, Linda, yn 1943 yn fuan ar ôl iddynt briodi ac mae galar Waldo amdani’n amlwg yn ei farddoniaeth.
Symudodd i Loegr yn 1944 ac yno y bu am 7 mlynedd, ond fel y clywn yn ei farddoniaeth, roedd ei galon yn Sir Benfro ac ardal y Preseli o hyd. Dylanwadwyd ar rai o’i gerddi’n arbennig gan gyhoeddiad y Weinyddiaeth Ryfel yn 1946 ei bod yn bwriadu meddiannu 16,000 o erwau'r Preselau, gan gynnwys Mynachlog-ddu, ar gyfer ymarferion milwrol parhaol. Ysgrifennodd Waldo rhai o’i ddarnau enwocaf yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys Preseli a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 1946.
Yn ogystal â’r gerdd honno, ysgrifennodd y canlynol sydd hefyd yn dangos ei wrthwynebiad i’r gweithgaredd milwrol - Caniad Ehedydd (Mai 1947), Daear Cymru (Mai 1947), Gwmwl Haf (Gorffennaf 1947), Cymru’n Un (Awst 1947), Chymru a Chymraeg (Tachwedd 1947) ac Yr Heniaith (Hydref 1948).
Dychwelodd i Gymru yn 1950 ac yn yr un flwyddyn penderfynodd fynegi ei wrthwynebiad i orfodaeth filwrol a Rhyfel Corea. Ymddiswyddodd fel athro, a gwrthododd dalu ei dreth incwm mewn protest. O ganlyniad, treuliodd ddau gyfnod o chwe wythnos yn y carchar, yn 1960 ac yna eto yn 1961, a chollodd ei eiddo i gyd bron i’r beili.
Un gyfrol yn unig a gyhoeddodd, sef casgliad o gerddi’n dwyn y teitl Dail Pren, yn 1956. Fe’i hystyrir yn gampwaith gan nifer, a dywed John Davies yn ei gyfrol, Hanes Cymru: “Diau mai’r gwaith mwyaf trawiadol a gyhoeddwyd wedi’r rhyfel oedd ‘Dail Pren’ Waldo Williams (1956) . . . .”[t.629].
Er mai’r un gyfrol hon yn unig sydd i’w enw, mae Waldo heddiw’n un o feirdd enwocaf Cymru ac mae ei waith wedi ysbrydoli cenedlaethau o ymgyrchwyr Cymreig. Cofir Waldo am ei farddoniaeth a hefyd am y ffordd y defnyddiodd ei ddawn i farddoni i hyrwyddo heddychiaeth.
Bu farw Waldo yn 1971 a chodwyd carreg goffa iddo ym mynyddoedd y Preseli, ger Mynachlog-ddu, yng nghysgod y tri mynydd a ddaeth yn enwog o’i herwydd – Foel Drygarn, Carn Gyfrwy a Thal Mynydd.