Enwog am: Cael ei garcharu dan amheuaeth o gefnogi’r Natsïaid a llunio sonedau tra’r oedd yn y carchar
Uchafbwynt Oes: Cydweithio gyda Keir Hardie a’r Blaid Lafur Annibynnol a bod yn un o sylfaenwyr Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr
Ganwyd Thomas Evan Nicholas ym Mhlwyf Llanfyrnach, Sir Benfro i deulu amaethyddol, a chyn ei ben-blwydd cyntaf, symudodd y teulu i fferm fechan o’r enw Llety yng nghanol Mynyddoedd y Preseli. Nid oes fawr o sôn am ei blentyndod, dim ond iddo fynychu’r ysgol leol yn Hermon.
Gadawodd Sir Benfro yn 1897 i fynd i weithio yn Nhreherbert yn y Rhondda. Rhywbryd ar droad yr 20fed ganrif penderfynodd fynd i’r weinidogaeth ac aeth i Academi Gwynfryn yn Rhydaman am dair blynedd i dderbyn ei hyfforddiant.
Fe’i hordeiniwyd ef yn 1901 i Gapel yr Annibynwyr yn Horeb, Llandeilo. Penderfynodd fynd i bregethu yn America yn 1903, gan fynd i Eglwys Gynulleidfaol Gymraeg Dodgeville. Bu yno am flwyddyn cyn symud yn ôl i Gymru yn 1904, i Gapel Seion, Y Glais yng nghwm Tawe, lle y bu hyd 1914. Tra’r oedd yno daeth i adnabod gweithwyr yr ardal. Cafodd y profiad gryn ddylanwad arno; mabwysiadodd yr enw barddol Niclas y Glais a daeth yn sosialydd brwd.
Daeth yn un o leisiau adnabyddus a phoblogaidd y Blaid Lafur Annibynnol (ILP) a datblygodd gyfeillgarwch â Keir Hardie. Bu’n olygydd colofn Gymraeg y Merthyr Pioneer, papur newydd yr ILP, am wyth mlynedd gyntaf y papur, o 1911 ymlaen, a daeth yn siaradwr iaith Gymraeg i’r blaid. Rhannodd lwyfan gyda Keir Hardie ar nifer o adegau mewn cyfarfodydd cyhoeddus, a safodd fel ymgeisydd Llafur yn Aberdâr yn 1918.
Dylanwadwyd arno hefyd gan y Chwyldro Bolsieficaidd yn Rwsia (1917) ac roedd yn un o sefydlwyr Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr, a sefydlwyd yn 1920. Parhaodd yn aelod am 70 mlynedd ac ni pheidiodd ei gefnogaeth er gwaethaf Rhyfel Fietnam a Chorea, a’r Chwyldro Tsiecoslofacaidd.
Roedd hefyd yn heddychwr a chafodd amser caled yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf oherwydd ei heddychiaeth. Roedd wedi symud i Langybi yng Ngheredigion erbyn 1914, ond parhâi i siarad yn erbyn y rhyfel ar hyd a lled y wlad. Oherwydd yr adwaith i’w safbwyntiau gadawodd y weinidogaeth ac aeth yn ddeintydd. Symudodd i Bontardawe i ddechrau ac yna i Aberystwyth yn 1921, lle y bu tan ei farwolaeth.
Daeth ei enw yn adnabyddus i’r awdurdodau am y tro cyntaf pan siaradodd yng ngwasanaeth coffa Keir Hardie yn 1915. Cwynodd aelod o’r gynulleidfa wrth prif gwnstabl Sir Forgannwg am rai o’i sylwadau. Anfonwyd y gŵyn at gyfarwyddwr yr Erlyniadau Gwladol ond penderfynodd y Twrnai Gwladol beidio â dwyn achos. Dwy flynedd yn ddiweddarach, derbyniodd yr awdurdodau gŵyn arall am ei agwedd. Y tro hwn ymatebodd MI5, gan arwyddo gwarant i agor unrhyw lythyr, telegram neu becyn a gyfeiriwyd ato. Yna, yn 1918, cafodd ei erlyn gerbron llys ynadon Llanbedr Pont Steffan dan Ddeddf Amddiffyn y Deyrnas am sylwadau a wnaeth ar ôl pregeth ganddo, er i’r achos gael ei wrthod yn y pendraw.
Yn ystod y 20au a’r 30au, parhaodd yr awdurdodau i gadw llygad arno, trwy agor ei bost. Yna ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, arestiwyd Nicholas gan brif gwnstabl Ceredigion a charcharwyd ef a’i fab, Islwyn, yng ngharchardai Abertawe a Brixton heb brawf na chyhuddiad!
Yr unig dystiolaeth yn eu herbyn oedd bod plismyn fu’n archwilio’u tai wedi dod o hyd i faneri â swastica arnynt, ond roedd y rhain yr un fath â’r rhai a ddosbarthwyd gan y Daily Express wythnos ynghynt i’w rhoi ar fapiau i nodi cynnydd y Rhyfel! Rhyddhawyd y ddau ar ôl pedwar mis, ar ôl i Aelodau Seneddol, yr Undebau, a ffigyrau adain chwith amlwg lansio ymgyrch i’w rhyddhau.
Lluniodd Niclas y Glais gannoedd o sonedau tra’r oedd yn y carchar, er i’r swyddogion wrthod rhoi papur iddo. Ysgrifennodd y sonedau ar lechen, a dysgodd nifer ar ei gof; smyglwyd y gweddill allan wedi’u hysgrifennu ar bapur tŷ bach a’u rhoi i Gwenallt a Prosser Rhys. Casglwyd y cerddi ac fe’u cyhoeddwyd mewn cyfrolau megis Llygad y Drws (1940) a Canu’r Carchar (1942).
Ysgrifennodd yn helaeth, a phrif themâu ei gerddi oedd anghyfiawnder, a’r frwydr rhwng y dosbarth gweithiol, cyfalafiaeth a heddychiaeth. Cyhoeddodd 10 casgliad o gerddi rhwng 1909 ac 1963.
Bu farw yn Aberystwyth ar 19 Ebrill 1971.