Rydych chi yma: Hafan / Oriel Enwogion / Kate Bosse-Griffiths

Kate Bosse-Griffiths (1910-1998)

Kate Bosse-Griffiths gyda choflech yn Amgueddfa Abertawe, pan oedd hi’n guradur henebion yno, [d.d]
Llun trwy garedigrwydd Mr Heini Gruffudd

Eifftolegwraig a anwyd yn yr Almaen a nofelydd Cymraeg


 

Enwog am: Curadur Amgueddfa Wellcome Prifysgol Abertawe a Churadur Anrhydeddus Amgueddfa Abertawe


Uchafbwynt Oes: Caffael a chatalogio casgliad Syr Henry Wellcome o arteffactau’r Aifft ar gyfer Prifysgol Abertawe

 

Ganwyd Kate Bosse-Griffiths yn Wittenburg-am-Elbe yn yr Almaen yn 1910, a’i henw'r adeg honno oedd Käthe Julia Gertrud Bosse.  Roedd ei rhieni’n bobl adnabyddus yn y dref, gyda’i thad, Paul Bosse, yn llawfeddyg a ddaeth i fod yn brif lawfeddyg ysbyty’r dref, a’i mam, Käthe Levien yn ferch i gyfreithiwr.  Iddewes oedd ei mam, ond roedd y teulu wedi mabwysiadu’r grefydd Lutheraidd.  Serch hynny diswyddwyd Paul Bosse fisoedd cyn yr Ail Ryfel Byd, am iddo wrthod gwahanu oddi wrth ei wraig.

 

Derbyniodd Kate Bosse-Griffiths ei haddysg uwchradd yn Wittenburg-am-Elbe cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgolion Berlin, Bonn a Munich.  Enillodd ddoethuriaeth yn 1935 yn y Clasuron ac Eifftoleg, a’r flwyddyn ganlynol cyhoeddodd astudiaeth ar ‘Gerfluniaeth y Corff Dynol yn y Cyfnod Eifftaidd Diweddar’.  Erbyn hyn roedd hi’n gweithio yn Adran y Clasuron ac Eifftoleg yn yr Amgueddfa Wladol ym Merlin, ond yn 1936 collodd hithau ei swydd hefyd am ei bod o dras Iddewig.

 

Yn 1936 ffodd o’r Almaen gan adael ei theulu ar ôl heb unrhyw sicrwydd y byddent yn goroesi, a derbyniodd swydd gan Syr D’Arcy Thompson, biolegydd a chlasurwr o’r Alban.  Yna aeth i weithio i Amgueddfa Petrie yng Ngholeg Prifysgol Llundain, ac yna ymlaen i Amgueddfa’r Ashmolean yn Rhydychen.  Yno, cyfarfu â J. Gwyn Griffiths, Cymro o’r Rhondda oedd yn ddarlithydd y Clasuron ac Eifftoleg yn Rhydychen.  Priododd y ddau yn 1939. 

 

Symudodd y pâr priod i dŷ teras yn y Rhondda wedi i J. Gwyn Griffiths gael swydd fel athro yn Ysgol Sir y Porth.  Tra’r oedden nhw yno, aeth Kate ati i sefydlu ‘Cylch Cadwgan’, sef cylch o lenorion blaengar oedd yn cynnwys Rhydwen Williams a Pennar Davies, ac roeddent yn cyfarfod ar aelwyd Kate Bosse-Griffiths a J. Gwyn Griffiths.  Fodd bynnag, roedd cyfnod y Rhyfel hefyd yn gyfnod trist i Kate Bosse-Griffiths, oherwydd lladdwyd ei mam ym mis Rhagfyr 1944 yng ngwersyll Ravensbrück, a threuliodd ei dau frawd a’i chwaer gyfnodau mewn gwersylloedd.

 

Yn 1946 penodwyd J. Gwyn Griffiths yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe.  Aeth y ddau i fyw i’r Sgeti yn Abertawe a phenodwyd Kate yn Guradur Anrhydeddus Archaeoleg yn Amgueddfa Abertawe.  Yna yn 1971, derbyniodd Prifysgol Abertawe dros 5000 o eitemau o gasgliad Syr Henry Wellcome o arteffactau o’r Aifft, a chan fod Kate yn eifftolegwraig, gwnaethpwyd hi’n gyfrifol am gatalogio'r casgliad pwysig hwn.  Sefydlwyd amgueddfa fechan ar gyfer yr eitemau a phenodwyd hi’n Guradur Amgueddfa Wellcome Prifysgol Abertawe, sydd bellach wedi’i leoli yng Nghanolfan yr Aifft.

 

Treuliodd weddill ei hoes yn astudio’r casgliad ac ysgrifennodd nifer o erthyglau’n ymwneud â’r casgliad yn y Journal of Egyptian Archaeology, yn ogystal ag amryw o gylchgronau Ffrangeg ac Almaeneg. 

 

Dysgodd Kate siarad Cymraeg yn rhugl, ac ysgrifennodd nifer o bamffledi a llyfrau yn Gymraeg, er ei bod yn bumed iaith iddi.  Cyhoeddodd ei llyfr cyntaf yn 1943, sef pamffled ar fudiadau heddwch yn yr Almaen.  Ysgrifennai ffuglen hefyd, ac enillodd ei nofel gyntaf Anesmwyth Hoen (1941) y wobr gyntaf yng ngornest Llyfrau’r Dryw, ac yn 1944 cafodd un o’r storïau yn ei chyfrol Fy Chwaer Efa a Storïau eraill y wobr gyntaf gan y beirniad Kate Roberts yn yr Eisteddfod Genedlaethol

 

Er na anwyd Kate yng Nghymru, roedd hi’n frwd dros bopeth Cymreig a magodd ei phlant yn yr iaith Gymraeg.  Daeth yn ffigwr pwysig ym mudiadau’r Gymraeg gan gynnwys Plaid Cymru ac achos yr iaith.

 

Bu farw ar 4 Ebrill 1998 yn 87 mlwydd oed. 

Related Images

Llyfryddiaeth

  • H. Gruffudd, ‘Kate Bosse-Griffiths (1910-1998)’, Taliesin, Cyfrol 102 (Haf 1988), tt.100-109.
  • M. Löffler, ‘A Tribute to Dr Kate’, Minerva-The Journal of Swansea History, Cyfrol 7 (1999), tt.4-7.
  • E. Llewelyn, ‘Kate Bosse-Griffiths’, Y Faner Newydd, Cyfrol 8 (Haf 1998), tt.8-9.
  • N. Tudur, “Diolch i’r Bradwr...”, Golwg, Cyfrol 17, Rhif 23 (17 Chwefror 2005), t.19.
  • P. Davies, ‘Kate Bosse-Griffiths a J. Gwyn Griffiths’, Y Traethodydd, Cyfrol 143 (Ionawr 1988), t.4.
  • M. Löffler, ‘Olion yr Ugeinfed Ganrif’, Barn, 424 (Mai 1998), t.36-37.

Dolenni