Enwog am: Ei waith yn y byd addysg yng Nghymru
Uchafbwynt Oes: Cael ei benodi’n Gadeirydd cyntaf CBAC
Ganwyd Joseph Jones ym Mhenybryn, Rhydlewis yng Ngheredigion yn 1877, yn fab i Reuben a Jane Jones. Yn 1882 oherwydd tlodi yng nghefn gwlad, bu’n rhaid i’w rieni a nifer o bobl o’r ardal symud i Forgannwg er mwyn chwilio am waith yn y pyllau glo.
Dechreuodd ei dad weithio ym mhwll glo Cwmaman, a daeth y teulu’n aelodau ffyddlon o gapel Annibynwyr Cymraeg Moreia-Aman. Yn anffodus, bu farw ei dad mewn damwain yn y pwll glo yn 1889, gan adael ei fam i ofalu am y teulu. Dechreuodd hithau gadw busnes llaeth er mwyn cynnal ei theulu.
Oherwydd y digwyddiadau hyn, gorfodwyd Joseph Jones i adael yr ysgol yn ddeuddeg oed, er ei fod yn alluog iawn. Aeth i weithio yn y pwll glo, fel un o fechgyn y lampau (‘lamp-boy’) i ddechrau, ond flwyddyn yn ddiweddarach graddiodd i ofalu am y pwmp dŵr.
Gwelodd gweinidog Moreia-Aman, y Parch. Aeron Davies, botensial yn Joseph Jones fel ysgolhaig a phregethwr, felly aeth i siarad ag uwch swyddog y pwll glo a rhyddhawyd Joseph Jones o’i swydd er mwyn cael addysg.
Yn 1896, fe’i derbyniwyd yng Ngholeg Coffa Aberhonddu i astudio i fod yn weinidog. Yn yr un flwyddyn aeth i Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, lle bu’n astudio am bum mlynedd. Graddiodd mewn Groeg yn 1901 ac yna treuliodd tair blynedd arall ym Mrycheiniog a derbyn y BD newydd gan Brifysgol Cymru.
Yn 1904, wedi iddo dderbyn ysgoloriaeth, aeth i astudio diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen a graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf dair blynedd yn ddiweddarach. Ym mis Ionawr 1907, cyn iddo orffen ei gwrs yn Rhydychen, cynigwyd swydd iddo fel athro Groegaidd y Testament Newydd yng Ngholeg Coffa, Aberhonddu, a dechreuodd y swydd ym mis Hydref. Bu’n gweithio yno hyd ei ymddeoliad yn 1950, ar wahân i flwyddyn sabothol yn 1911 pan aeth i Heidelberg i ddilyn cwrs ar y Testament Newydd. Penodwyd ef yn Brifathro yno yn 1943.
Ordeiniwyd ef yn 1908 i Eglwys yr Annibynwyr Cymraeg, ond ni fu’n weinidog ar unrhyw Eglwys. Serch hynny, bu’n pregethu yn y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru a Lloegr.
Yn 1919, penodwyd ef yn gadeirydd Pwyllgor Addysg Cyngor Sir Frycheiniog, swydd y bu ynddi weddill ei oes. Chwaraeodd ran bwysig yn y broses o ad-drefnu addysg ysgolion y sir yn dilyn Deddf Addysg Butler yn 1944.
Yn sgil hyn cafodd ei benodi’n gadeirydd Bwrdd Canolog Cymru a daeth yn gadeirydd cyntaf Cyd Bwyllgor Addysg Cymru (CBAC), a ddisodlodd y Bwrdd, yn 1949. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf CBAC ar 1 Hydref 1948.
Flwyddyn yn ddiweddarach, lluniodd CBAC restr arholiadau oedd yn cynnwys 33 o bynciau i’w harholi ar gyfer Tystysgrif Ysgol 1950. Roedd y pynciau hyn yn cynnwys yr ieithoedd canlynol: Lladin, Groeg, Cymraeg, Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg, Hebraeg a Norwyeg ynghyd â Gwyddor Amaethyddol, Gwniadwaith a llunio gwisgoedd. Un o bynciau trafod cynnar CBAC oedd sefydlu arholiadau ac addysg ddwyieithog yng Nghymru.
Bu Joseph Jones yn amlwg tu hwnt yn y byd addysg yng Nghymru. Ymysg nifer o gyfrifoldebau, bu’n gynrychiolydd Cymru ar Bwyllgor Norwood, yn Is-lywydd Ffederasiwn y Pwyllgorau Addysg, bu ar gynghorau Prifysgol Cymru ac yn aelod o'r Llys a'r Cyngor, ac ar gyrff llywodraethol amryw o golegau. Yn 1949, cyflwynodd Prifysgol Cymru radd doethur yn y gyfraith er anrhydedd i Joseph Jones am ei wasanaeth i addysg yng Nghymru.
Chwaraeodd ran bwysig ym mywyd Sir Frycheiniog; bu’n aelod o’r Cyngor Sir rhwng 1913 ac 1948, yn gadeirydd y Cyngor Sir rhwng 1940 ac 1942, yn gadeirydd llywodraethwyr ysgol Sir Frycheiniog ac yn Ynad Heddwch ym mwrdeistref Aberhonddu.
Cyfrannodd hefyd at Annibyniaeth ac Anghydffurfiaeth yng Nghymru. Bu’n gadeirydd Undeb yr Annibynwyr rhwng 1946 ac 1947 ac yn gadeirydd Cyngor yr Undeb am nifer o flynyddoedd.
Bu farw ar 28 Ebrill 1950 yn 73 mlwydd oed.