Enwog am: Bod yn erlynydd yn Nhreialon Nuremburg, y “Moors Murders” a thribiwnlys Aberfan
Uchafbwynt Oes: Bod yn Arglwydd Ganghellor o 1974 tan 1979
Ganwyd Frederick Elwyn Jones yn Llanelli yn 1909 a bu’n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Llanelli cyn mynd i astudio hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1927. Ar ôl blwyddyn, gadawodd Aberystwyth oherwydd iddo ennill lle i astudio hanes yng Ngholeg Gonville a Caius Caergrawnt.
Tra’r oedd yno daeth yn llywydd Undeb Caergrawnt yn 1931. Aeth ymlaen i astudio’r gyfraith a daeth yn fargyfreithiwr yn Gray’s Inn yn 1935. Yn 1936 daeth yn ôl i Gymru fel cyfreithiwr.
Oherwydd ei gysylltiad gyda’r Ffabiaid tra’r oedd yn Llundain, cafodd gais i roi cyngor cyfreithiol i Ddemocratiaid Cymdeithasol Awstria oedd yn cael eu herlid. Yn 1934 aeth i Fienna i’w cynorthwyo. Dechreuodd gymryd sylw o’r broblem Ewropeaidd. Mynychodd dreialon gwleidyddol yn yr Almaen, Gwlad Groeg, Rwmania a Hwngari fel cynrychiolydd Cymdeithas Ryngwladol y Cyfreithwyr Democrataidd yn 1936. Yn ogystal, ysgrifennodd ar gyfer nifer o bapurau newydd am y problemau ac ysgrifennodd dri llyfr yn ymwneud â bygythiad ffasgiaeth.
Yn ystod y Rhyfel, gweithiodd yn yr adran gwasanaeth cyfreithiol a bu’n gyfrifol am achosion yng ngogledd Affrica, Sisili a’r Eidal. Rhwng 1943 ac 1945 penodwyd ef yn Ddirprwy Farnwr Adfocad a mynychodd sawl cwrt-marsial ac ymchwiliad i greulondeb honedig y Natsïaid.
Tra’r oedd yn y fyddin, dewiswyd ef yn ddarpar ymgeisydd Llafur. Yn Etholiad Cyffredinol 1945 etholwyd ef yn Aelod Seneddol Llafur ardal Plaistow yn West Ham.
Yn fuan wedi hyn gwahoddwyd ef gan y Twrnai Gwladol i fod yn erlynydd yn Nhreialon Rhyfel Nuremburg ac ef oedd yn gyfrifol am baratoi erlyniad yn erbyn y llyngesydd Erich Johann Albert Raeder. Yn ogystal, arweiniodd yr erlyniad yn erbyn Marshal Erich von Manstein o’r Almaen yn Nhreial Hambwrg yn 1948.
Yn dilyn cwymp Llywodraeth Attlee, ac yn ystod rheolaeth y Ceidwadwyr (1951 – 64) canolbwyntiodd ar ei rôl gyfreithiol, gan ymddiddori yn yr Undebau Llafur ac achosion o esgeulustod. Parhaodd i gynrychioli etholaeth De West Ham, Llundain rhwng 1950 ac 1974. Yn 1953 gwnaethpwyd ef yn Gwnsler y Frenhines, ac yn dilyn buddugoliaeth y blaid Lafur yn etholiad1964, penodwyd ef yn Dwrnai Gwladol.
Fel twrnai gwladol, ef oedd cyfreithiwr yr erlynydd yn achos y ‘Moors Murders’ a gynhaliwyd yn 1966 yn erbyn Ian Brady a Myra Hindley, a gafwyd yn euog o’r troseddau. Roedd hefyd yn gyfreithiwr i Dribiwnlys Ymchwiliad Trychineb Aberfan. Yn ogystal bu’n gyfrifol, ar y cyd â’r Arglwydd Ganghellor Gerald Gardiner, am sefydlu Comisiwn y Gyfraith yn 1965.
Yn 1974, penodwyd ef yn Arglwydd Ganghellor gan Harold Wilson, swydd y bu ynddi hyd 1979. Gwnaethpwyd ef hefyd yn Arglwydd am Oes, a mabwysiadodd y teitl Yr Arglwydd Elwyn-Jones o Lanelli a Newham. Wedi hynny, ymddiswyddodd fel Aelod Seneddol dros De Newham.
Priododd Pearl Driberg (Binder) yn 1937 a chawsant dri o blant. Bu farw ar 4 Rhagfyr 1989 yn 80 mlwydd oed.